Menna Elfyn
Dysgu Cymraeg i Awen Dylan Thomas
Dysgu Cymraeg i Awen Dylan Thomas
Un i wneud hwyl am ei phen oedd hi unwaith,
Wrth gael ei gweld
Mewn parc gwag—
Hen ddynes grwca heb ei medru hi.
Ond heddi, nid felly y mae;
Eistedd wrth ei hochr a wnaf,
a dysgu iddi eiriau pwysig
Ei chael i ddweud ar fy ôl,:
Coed, O, rhai cadarn ydynt,
Cedyrn y Cymry;
a dŵr, sbiwch fel y mae dŵr yn treiglo Y d-d-d- yn disgyn, wedi tasgu o bistyll.
ac yna adar. dysgaf iddi ddau air – Trydar ac adar;
Yr adenydd a’r ehedeg;
ac ni fydd rhai’n gweiddi geiriau cras ar ei hôl,
achos yn ei genau bydd geiriau i’w chynnal.
a byddaf fel ceidwad y parc yn mynd tua thre, gan wybod nad yw’n ddigartre,
ac o bell,clywaf eiriau’n seinio
dros bob lle:
Yn Abertawe.
Coed cadarn,
Cedyrn y Cymry,
dŵr, ac adar,
a bydd ei geiriau‘n ddiferion,
O bistyll,
Yn codi, fel adenydd sy’n ehedeg.
a bydd ei ffon o hyn allan
Yn pigo dail marw o’r parc
a’u troi yn las,
Mor las â thafod hen wraig grwca yn y parc.