Menna Elfyn
Y cynta' i weld y môr
Idioma: galés
Traducciones:
catalán (La mar, per primer cop), inglés (Seeing the Sea)
Y cynta' i weld y môr
Bod y cynta’ i weld y môr
yna’r agosa down
at ddarganfod yn llygad agored
yr arlais cyn inni ddidol
yr aeliau sydd rhwng nef a daear,
gwagle a gweilgi.
Awn yn llawen tua’i chwerthin:
cyrraedd at ymyl fflowns ei chwedlau,
tafodau glas yn traethu gwirebau.
Am ennyd syllwn heb allu deall
ble mae’r dyfnder, y dwyfol nad yw’n datgan
ei hun wrth swatio’n y dirgel.
A gweld o’r newydd, nad yw’r moroedd
yn llai mirain, er i longau ddryllio
ar greigiau, cans yno bydd y cyffro
sy’n iasu yn ein geni’n frau o’r newydd.
Gweld y môr gynta’ yw’r cynta’
y down at ddarganfod gwir ryfeddod.