威尔士文

[ich liege in schwingung auf grund]

© Arne Rautenberg
从: einblick in die erschaffung des rades;
herausgegeben von Andy Lim & Dieter M. Gräf
Köln: Darling Publications, 2004
录制: 2004, M.Mechner / Literaturwerkstatt Berlin

[ar waelod y]

ar waelod y
dyfnderoedd rwy’n crynu
fy nghân yw fy nghwymp fy nid
yw golau fy nghyrraedd y tawelwch
ar fy mhen fy hun yma rwy’n gwybod
hyn mae bywyd eisiau gwybod gwybod
mae amser cylchdroi yn y meddwl mae
popeth perffaith cylchdroi mae perffeithrwydd
cwbl berffaith yw bywyd ac amser mi wn
disgyn mae dŵr yn ddistaw i’m hysgyfaint
fy nofio sy’n gudd mae fy llais yn tywallt
rwy’n newid croen tra’n diosg y blinder
cyfrif ei ddiferion mae’r môr ynof
dŵr rwy’n ei i yfed slefren fôr
yw fy nghlystwr sêr


fy nghlystŵr
sêr yw slefren fôr
rwy’n yfed dŵr ynof mae’r
môr yn cyfrif ei ddiferion tra’n diosg
y blinder newid croen tywallt mae fy
llais cudd yw fy nofio i’m hysgyfaint yn
ddistaw mae dŵr yn disgyn gwn bod amser a
bywyd yn gwbl berffaith mae perffeithrwydd yn
cylchdroi mae popeth perffaith yn y meddwl
yn cylchdroi mae amser yn gwybod eisiau
gwybod mae bywyd rwy’n gwybod hyn yma
ar fy mhen fy hun y tawelwch nid yw golau’n
fy nghyrraedd fy nghwymp yw fy nghân
rwy’n crynu ar waelod y
dyfnderoedd

Meirion MacIntyre Huws