Meirion MacIntyre Huws
I CYNWAL
‘Leni ‘Mrysgyni Ganol
’di ’rots bod yr hen lôn drol
yn ddwylath hyll o ddeiliach,
a bod bêls y beudy bach
yn drwm, a ’di ‘rots bod drain
yn plagio’r ffordd i’r Plygain.
Mae’r Frech yn dal i sgrechian,
drachefn daeth adar â chân.
Mae telor pob ben bore
a’i gloch hir yn llenwi’r lle,
ac mae robin a llinos,
yn tyˆ ni o wawr tan nos,
yn y Cae Top a’r coed tal
yn canu i ti Cynwal.