Menna Elfyn
Gras Ar Ras
Gras Ar Ras
Gofalodd bod eu dillad hwy yn gras,
Eu halio uwch y reilen ger y tân,
Gofalwyd nad oedd bai ar unrhyw was.
Ar ambell fore, cael a chael ar ras
I’r ysgol, bwyd ar hast, a’r plant mor fân
Gofalodd bod eu dillad hwy yn gras.
Colli cwsg am sbel a’r plant yn y pâs,
Gwellhad drachefn, gwrid ar wynebau glân,
Gofalwyd nad oedd bai ar unrhyw was.
Ffraeo ‘da ffrindiau, ond dim byd yn gas,
Cychwyn pob bore gyda nodau cân,
Gofalodd bod eu dillad hwy yn gras.
Wedi’r ing mor bitw oedd geiriau gras,
holltwyd cwm, pob teulu yn ddiwahân;
gofalodd bod eu dillad hwy yn gras
gofalwyd nad oedd bai ar unrhyw was.