Menna Elfyn
Catrin Glyndwr: Cyrraedd
语言: 威尔士文
翻译:
阿拉伯文 (الوصول), 加泰罗尼亚文 (L’arribada), 英文 (Arrival)
Catrin Glyndwr: Cyrraedd
Ym min yr hwyrnos
y deuthum yma
o’r gefnen o dir
i lwydni cell,
pilen llygad
yn ffenest gron.
Murmuron
tu ôl i’r muriau
Hwyl a helynt
yn ymwau.
Blinedig ydwyf,
eto ni ddaw cwsg,
a chrasboer y ceidwad
ar fy anadl o hyd.
‘Oherwydd eich llinach
y dygwyd chi yma.
Eiddo o ran,
a’ch tad yn rhydd.’
Llygadfrith a llawgaled
fy holi’n ulw.
Ond meddyg da yw’r anwybod
rhag heigio celwyddau.
Yn ddu-las, yngan yn isel,
‘teg yw’r nos i ŵr llwfr.’