Ifor ap Glyn
Noswylio
Noswylio
Mae'n ddefod gyda'r 'fenga 'cw
wasgaru "llwch cysgu"
dros ei lygaid,
cyn eu cau, trwy gribo'r cwsg
i lawr trwy'i wallt
ac yn dyner dros ei dalcen,
nos da, Dad
nos da...
Grandawaf ar y plant yn anadlu'r nos,
y pennau bach dan gwrlid
wedi mynd i rywle lle na allwn ddilyn,
ond o leiaf y dôn nhw nôl;
mae sêr rhyw nos dragwyddol
yn britho'u gwalltia,
a'u wyneba fel clocia
yng ngwyll y llofft...
Mae eu boreau nhw yn bnawn i ni,
a'u pnawniau nhw a wêl ein noswylio;
pnawn Sul tawel efallai,
a'r haul trwy'r bleind yn ystol ddu ar wal;
a'r dyrna bach
wedi dod yn ddwylo oedolyn,
sy’n gwasgaru'r llwch cysgu dros fy llygaid cau,
a'i gribo lawr trwy 'ngwallt brithwyn...
Nos da, Dad
nos da...