Grahame Davies
Rough Guide
Rough Guide
Mae’n digwydd yn anorfod,
fel dr yn dod o hyd i’w lefel,
ond bob tro yr agoraf lawlyfr teithio
‘rwy’n hwylio heibio’r prifddinasoedd a’r golygfeydd,
ac yn tyrchu i strydoedd cefn diolwg y mynegai,
a chael fy mod yn Ffrainc, yn Llydäwr;
yn Seland Newydd, Maori;
yn yr Unol Daleithiau - yn dibynnu ar ba ran -
‘rwy’n Navajo, yn Cajun, neu’n ddu.
Y fi yw’r Cymro Crwydr;
yn Iddew ymhob man.
Heblaw, wrth gwrs, am Israel.
Yno, ‘rwy’n Balesteiniad.
Mae’n rhyw fath o gymhlethdod, mae’n rhaid,
fy mod yn codi’r grachen ar fy psyche fel hyn.
Mi dybiaf weithiau sut beth a fyddai
i fynd i un o’r llefydd hyn
a jyst mwynhau.
Ond na, wrth grwydro cyfandiroedd y llyfrau
yr un yw’r cwestiwn ym mhorthladd pob pennod:
“Dinas neis. ‘Nawr ble mae’r geto?”