Grahame Davies
Llwyd
Llwyd
Llwyd yw’r pethau sy’n goroesi i gyd:
ar derfyn dydd, cymylau uwch y glyn.
Mae’r rhain yn aros, er pob newid byd.
Y llanw’n llenwi’r harbwr ar ei hyd,
y cen ar greigiau’r chwarel ar y bryn.
Llwyd yw’r pethau sy’n goroesi i gyd:
Cyfnos y cwm yn disgyn fesul stryd,
y glaw sy’n sgleinio ar y llechi tyn.
Mae’r rhain yn aros, er pob newid byd.
Y niwl sy’n cuddio creithiau’r gweithfeydd mud,
a lludw’r aelwyd lle bu’r fflamau ‘nghynn.
Llwyd yw’r pethau sy’n goroesi i gyd:
Y môr a gariodd gyfoeth gwlad yn fflyd,
yr wylan heda uwch y glannau hyn.
Mae’r rhain yn aros, er pob newid byd.
Y cartref wnawn o ddur a maen ynghyd,
grëwn o dduwch ac o olau gwyn.
Llwyd yw’r pethau sy’n goroesi i gyd.
Mae’r rhain yn aros, er pob newid byd.