Ifor ap Glyn
Gwers
Gwers
Trwy hedfan dros Gymru
mae dysgu ei charu;
hongian yn araf uwch ei phen,
ei hadnabod o onglau anghyfarwydd.
Ac rhwng cellwair y cymylau blew geifr,
dyma benrhyn Llŷn,
fel llawes a dorchwyd ar frys.
Dyma gaeau’n gotymau blêr
am ddirgelwch y mynydd,
wedi’u pwytho’n gain gan y cloddiau.
Dyma lechi’n domenni
wedi’u cribo o’r tir
fel ôl bysedd drwy’r tywod,
a llynnoedd bychain llachar
fel mannau geni cyfrin
yn haul yr hwyr.
Ac wrth drwyno ffenest yr awyren heno
mae’r gwefusau’n mynnu adrodd
pader yr enwau,
“Dyfi Junction, Cors Fochno...”
a’th anadl fel siffrwd carwr dros ei chorff,
“Dowlais, Penrhys, Gilfach Goch...”
Ac wrth iddi gau’i swildod dan len,
mae cysgod yr awyren
yn symud fel croes dros y cymylau gwynion,
yn sws ar lythyr caru’r oesau,
yn bleidlais betrus dros ei pharhad...