Die dunklen Orte

Im schattenlosen Wald, der trauernd steht
Am hundekahlen Kamm des Erzgebirgs
Geh ich umher, in der Dämmerung
Oder ists Rauch AUS BÖHMENS HAIN UND FLUR
Den sie nicht fassen an der Grenze, grau
Der Rasen deckt das Riesenhaupt
In dem es grübelt hunderte Jahre
In hohlen Schächten, wo sie wohnen wie
Im Orkus, und viel arbeiten die Wilden
Mit gewaltigem Arm

                                  Bei Altenberg
Die Binge starrend, Eingeweide
Seit das Erdreich einbrach unter Tage
Über Nacht, in dem die Arbeit pocht
Menschlichfreudig noch, wie sonst

Das ist der Berg. Und was ist nun die Predigt.
Die Stimme spricht: Kehr um. – Voran! voran
Im Dunkelen wo die Gefahr wächst
Die dritte aus dem Busche: BAHNE FREI
Schlittern die Kindlein auf der Teufelsbahn

Ich dachte stets, es würde erst beginnen.
Jetzt hab ich meine Tage abgerissen
Und saurer Regen rennt mir aus der Stirne
Kaum atmen mehr, nur reden das
In meinem dunklen Kopf / mein Tschernobyl
Wo auch das Kind im Mann ergraut
Und nicht verspricht die Erde noch zu dauern

Die Freiheit nun, so ungebunden stehn

Die Stimmen schrein. Im Hochwald hängt Hans Koch
In unästhetischem Zustand

                    DAS TAGWERK IST VOLLBRACHT.
S IS FEIERAHMD. GANZ SACHTE SCHLEICHT
    DE NACHT.

© Suhrkamp Verlag Frankfurt am Main 1990
Extraído de: Der Stoff zum Leben 1 - 3. Gedichte
Frankfurt am Main: Suhrkamp Verlag, 1990
ISBN: 3-518-22039-X
Produção de áudio: 2000 M. Mechner, literaturWERKstatt berlin

Y Llefydd Tywyll

Mewn coedwig ddi-gysgod a saif mewn galar
wrth gefnen foel yr Erzgebirge
crwydraf yn y cyfnos -
neu ai mwg ydyw - o ddolydd teg Bohemia,
na chaiff ei atal gan y ffin. Llwyd
yw’r glaswellt ar y pen cawraidd
a fyfyria ers canrifoedd.
Mewn siafftau gweigion lle trigant fel
mewn isfyd, gan ddygnu gweithio’n fileinig
â braich nerthol.

Ger Altenberg,
wrth i’r cwymp ddod i ben, perfeddion.
Ers rhwygo,
o olwg y dydd, liw nos,
y ddaear lle ceibia’r gwaith
yn ddyngarol braf o hyd, fel arfer.

Dyma’r Mynydd. Felly beth yw’r Bregeth?
Meddai’r llais: Cer ‘nôl –  ymlaen, ymlaen.
Mewn tywyllwch, lle tyf y perygl,
meddai’r trydydd, o’r perthi: ALLAN O’R FFORDD.
Llithra’r plant bychain ar ffordd y cythraul.

Meddyliais bob amser,  ei fod ar ddechrau.
Erbyn hyn, rhwygais fy nyddiau treuliedig a’u taflu,
a rhed glaw asid i lawr fy nhalcen;
yn methu anadlu, dim ond siarad.
Yn fy mhen tywyll, fy Chernobyl innau,
lle gwynna fy mhlentyn mewnol yntau
a lle nad yw’r ddaear yn addo goroesi.

Rhyddid, felly, saif yn ddilyffethair

Mae’r lleisiau’n sgrechian. Yng nghoedwig y mynydd
croga Athro’r Celfyddyd Gain,
mewn cyflwr anghelfydd.

Nawr mae gwaith y dydd ar ben,
cychwyn mae mwynhad,
nawr mae’r noson dywyll fwyn
yn stelcio dros y wlad.

Translated by Grahame Davies