Menna Elfyn
Catrin Glyndwr: Colli Amser
língua: galês
Traduções :
árabe (الوقت الضائع), inglês (Lost Time)
Catrin Glyndwr: Colli Amser
Cyfri’r amser yr wyf yma
gyda chydunnau fy mhlant,
gweithio dolen o bleth yn foreuol
yna’n wythnosol.
Nodi marc ar y mur
gyda’r gwaed a wasgaf
o gnoi ewinedd i’r byw.
Dathlu taldra hefyd
er mor llwyd eu mebyd
bu dyddiau trugarog.
ac adrodd a wnaf am gario llestr o’r ffynnon,
am edrych i’r wybren trwy’r coed,
am gasglu cennin y brain,
am gyfri lliwiau’r dail,
yn efydd ac ambr, ysgarlad gloyw.
Aur llathrog atgof yw.