Meirion MacIntyre Huws
BONANZA
Cymylau, fodca melyn,
pennau’n troi, dau gowboi gwyn
yn cyrraedd, dau mewn cariad
efo’r lôn araf a’r wlad.
Dau yn hyˆn a’u gwalltiau’n hyll
a dau a’u ll’gadau’n dywyll,
yn gôt a het a gitâr,
yn lluwch o eiriau llachar.
Dau â golwg di-galon,
dau wˆ r ddim yn siwˆ r o Shawn.
Shawn y rhyfel penmelyn,
butrach ei reg na deg dyn,
un rhy fawr i unrhyw fedd,
Shawn y dyn crensian dannedd.
‘Dak!’ arall, fodca arian,
a chalonnau dau ar dân,
dau fu’n siarad â’r adar,
a’r byd i gyd ar eu gwar,
dau hen hobo’n britho’n braf
yn niwl y dafarn olaf
cyn troi, fel pob cowboi call
am erwau rhyw gwm arall.