Ég er bréfshaus

Ég er dagsetning, staður

            Ég er formlegt kurteisisávarp.

            Ég er opnunarsetning. Ég er kynningarsetning. Ég er
setning sem rekur erindi, sem rekur erindi, rekur erindi. Ég er sár
bón örvæntingarfullrar manneskju. Ég er reiðinnar býsn af hógværð.
Ég er lýsing á stórkostlegum afrekum. Ég er ítrekun hógværðar. Ég
er upptalning, upptalning, upptalning.
            Ég er frekari útskýring, nánari útlistun. Ég er ítrekun
sárinda, frásögn af eymd. Ég rek fingur í gröft opinna sára. Ég
höfða til mennskunnar. Ég höfða til samviskunnar. Ég höfða til
sektarkenndar vegna atburða horfinna tíma. Ég fer viljandi með
ósannindi.
            Ég er upphaf frásagnar. Ég er útskýring á aðstæðum. Ég er
vísun í aðra sögu. Ég er miðja frásagnar. Ég er ris. Ég er uppgjör. Ég
er frágangur. Ég er málsháttur sem tekur saman söguþráðinn á
einfaldan hátt. Ég er ný túlkun á boðskap sögunnar.
            Ég er uppástunga um málalyktir. Ég er enn frekari ítrekun
sárinda. Ég er bruðlun óljósra hótana. Ég er aumkunarvert
sársaukaóp. Ég er örvænting að níu tíundu hlutum og reiði að
einum tíunda hluta. Ég er boð um kynferðislega greiða. Ég er lýsing
á staðsetningu og tíma. Ég er símanúmer.


            Ég er formleg kurteisiskveðja.

                                    Ég er undirskrift
                                    Ég er nafn

© Eirikur Örn Norddahl
Production audio: Literaturwerkstatt Berlin 2010

Pennawd llythyr wyf

Dyddiad a chyfeiriad wyf

            Cyfarchiad ffurfiol wyf

            Brawddeg agoriadol wyf i. Brawddeg rhagarweiniol wyf innau. Brawddeg wyf i sy’n gwneud neges, sy’n gwneud neges, gwneud neges. Ple wyf i gan un sy’n anobeithio. Dicllon o wylaidd wyf i. Disgrifio campau mawr wyf innau. Wyf i’n ail-adrodd gwyleidd-dra. Rhoi cyfrif wyf i, rhifo, rhestru. Esboniad pellach wyf innau, ymhelaethiad manwl. Ail-bledio wyf i, yn ail-adrodd gwae. Bys wyf i yn twrio mewn clwy’ heb geulo. Apelio at ddynoliaeth wyf i. Apelio at gydwybod wyf innau. Rwyf innau’n apelio at euogrwydd sy’n deillio o’r hen amser gynt. Dweud anwiredd yn fwriadol wyf i.

            Dechrau stori newydd wyf i. Esbonio’r amgylchiadau wyf i. Cyfeirio at stori arall wyf innau. Canol y stori wyf i. Codi i’r uchafbwynt wyf i. Gollyngiad wyf i ...  
A’r diwedd wyf innau. Dweud bachog wyf i sy’n crynhoi ergyd y stori’n dwt. Dehongliad newydd o neges y stori wyf i. Awgrymu diwedd posib i bethau wyf i. Ailadrodd yr hen wae unwaith yn rhagor wyf innau. Chwythu bygythion amhenodol wyf i. Cri druenus o’r galon wyf i. Cyfuniad nawdeg y cant o anobaith a deg y cant o gynddaredd wyf i. Cynnig o gymwynasau rhywiol wyf innau. Disgrifio’r lle a’r amser wyf i. Rhif ffôn wyf i.  

            Yr eiddoch yn gywir wyf i.


                        Llofnod wyf i.

                        Enw wedi ei deipio wyf i

Translated by Ifor ap Glyn