Meirion MacIntyre Huws
ANGEN
i gyfarch Menna Elfyn yn Fardd Plant Cymru 2003.
Oes mae ganddyn’ nhw lygaid
ond maen nhw dy angen di
i weld y tylwyth teg wrth y llyn grisial,
a gweld y cerrig y tu ôl i’r papur wal.
Oes, mae ganddyn’ nhw glustiau
ond maen nhw dy angen di
i glywed sgrech y canrifoedd mewn brawddegau byrion,
a chlywed swˆ n traed uchelwr ar lwybr ym Môn.
Oes, mae ganddyn’ nhw dafodau
ond maen nhw dy angen di
i’w tywys drwy’r gerdd sy’n dweud y cyfan
mewn gwaed oer a dyrnaid o eiriau mân.
Fwy nag erioed,
maen nhw dy angen di,
fel y byddi di
eu hangen hwythau.