Hen gapel

‘Cysgant mewn Hedd’ meddai cofeb y colledigion,
ond ar y jiwcbocs heno, nid oes emynau, 
ddim hyd yn oed Rhys
nac Ebenezer,                         
wnaeth gathrain y milwyr o’r ffos...                           
 
Codaf beint wrth y bar lle ces i medyddio.
Mae’n amser cwrdd; 
mae merch yn hel gwydrau cymun y p’nawn;
mae’n rhoi gwên yn adnod i’r barman.
 
Cyfodaf fy llygaid tua’r oriel chwil
lle bu nhad yn hel casgliad,
lle cyfarfu gyntaf â llygaid fy mam
a hithau’n rhoi einioes gyda’r swllt yn ei blât. 
                                      
‘O ba le y daw fy nghymorth?’
Plethaf ddwylo am fy nghwrw.
Cau llygaid. Plygu pen.
Cyfri bendithion....
ond methu â mwynhau
fy mheint cableddus.

© Ifor ap Glyn
De: Cuddle Call?
Gwasg Carreg Gwalch, 2018
Producción de Audio: Wales Literature Exchange