Meirion MacIntyre Huws
YN LUBLIN
Idioma: galés
Traducciones:
alemán (in lublin)
YN LUBLIN
Yn Lublin mae croes uwch fy ngwely
a choedlan sy’n gwatwar y byd,
a llyn tyfn yn llawn o atebion
a ’sgotwrs yn ei holi o hyd.
Yn Lublin mae cant o selerydd
a channwyll yn llosgi mewn un,
a chastell na wˆ yr beth yw cusan,
a brân sydd yn siarad â’i hun.
Yn Lublin mae’r strydoedd yn llydan,
mae Tecsan yn cynnig ei gar,
mae rhywun sy’n debyg i minnau
yn crïo ’mhen arall y bar.
A’r wawr wrthi’n torri yn deilchion
a storm yn ei lygaid yn hel
yn Lublin mae bardd yn mynd adref
a’r angylion yn sibrwd “Ffarwél”.