Meirion MacIntyre Huws
YN AMSER GLYNDWR
“Mae mwy o goed heddiw nag yn amser Glyndwˆ r”
coed Yukka a Redwood a phinwydd mae’n siwˆ r.
Mae llawer iawn mwy o fforestydd bambwˆ ,
ond mae’r cyll a’r deri’n prinhau meddan nhw.
Yn amser Glyndwˆ r gallai wiwer fach goch
fynd o Nanmor i Gynon i lenwi dwy foch,
o gangen i gangen, drwy un goedwig fawr
o wawr tan y machlud heb gyffwrdd y llawr.
Yn amser Glyndwˆ r gallai bardd fynd ar daith
o Gaerlŷr i Gemper heb newid ei iaith.