Grahame Davies
Villanelle y Cymoedd
‘Rwy’n gweld mai teithio ydy pwrpas taith;
‘rwy’n dechrau deall castiau ysbryd Duw,
a gweld mai ennill ffydd yw colli’r ffaith.
‘Rwy’n gweld brawdgarwch dyddiol bro ddi-waith,
yr hiwmor du a’r jocian yn y ciw,
‘rwy’n gweld mai teithio ydy pwrpas taith.
Gweld plant y dôl yn gweithio dros yr iaith,
y Cymoedd yn pleidleisio “Ie” yn driw,
a gweld mai ennill ffydd yw colli’r ffaith.
Tro ar y mynydd wedi diwrnod gwaith;
y fam yn cario’i babi ‘lan y rhiw,
‘rwy’n gweld mai teithio ydy pwrpas taith.
‘Rwy’n dechrau deall gras sy’n diodde’r graith,
a deall fel mae marw er mwyn byw;
a gweld mai ennill ffydd yw colli’r ffaith.
‘Rwy’n teimlo’r gwynfyd yn y gwacter maith
a bendith losg yr halen ar y briw.
‘Rwy’n gweld mai teithio ydy pwrpas taith,
a gweld mai ennill ffydd yw colli’r ffaith.