Meirion MacIntyre Huws
MEWN ANGLADD
Wrth i mi fethu â sbïo,
wrth i deulu rythu ar ro,
wrth i ffrind frathu ei ffarwél
a Duw ei hun yn dawel,
fel gwaetgwn dacw nhw’n dod
yn poeri galar parod.
Troediant yn dwt drwy’r adwy,
“Dod i ymweld a dim mwy”.
Dymuno ’nabod maen-nhw,
dyna haul ei bywyd nhw.
“Pasio!” er mwyn cael phisyn,
hanner darn bychan o’r dyn.
A gyda’n bod ni’n gadael
bydd rhyw sgwrs wrth gwrs ar gael.
A gawn-nhw fynd yn gynnar
wedi’r sgwrs i’w milltir sgwâr,
yn ôl i’w byd annwyl, bach
ansicir yn bwysicach.