Meirion MacIntyre Huws
LLE MAE CYCHOD Y TLODION
Idioma: galés
Traducciones:
alemán (dort wo die boote der armen)
LLE MAE CYCHOD Y TLODION
Lle mae’r tarmac yn graciau
a swˆ n cwch fel drws yn cau
yn rhywle, lle mae’r wylan
fudur a chur yn ei chân
wastad a’r tai’n ddistaw
ac oglau hallt ar y glaw
lle mae’r gaeaf yn trafod
fy hynt a’r hyn sydd i fod.
Lle mae cychod y tlodion
yn dweud eu dweud wrth y don
a dwy awr rhyngof â’r dydd
dwyawr mewn diawl o dywydd
mae’n flêr a does run seren
heno i mi uwch fy mhen
dwi’n geiban ond yn gwybod
mai yma wyf innau i fod.