Y tŷ hwn

‘If we want Wales, we will have to make Wales’     

(Gwyn Alf Williams)

Daeth gwanwyn yn hwyr i’n gwlad;
y gaea wedi cloi ein huchelgais
a gwydro ein dyheadau,
cyn y dadmer mawr,
a barodd i’r gwteri garglo
a’r landeri garlamu.
 
Boed felly, haul, ar y tŷ hwn heddiw;
dyma bair ein dadeni; a llwyfan i’n llais;
lle canwn ein gweledigaeth i fodolaeth...
 
A down yma o sawl cwmwd, megis cynt – 
wrth droedio’r llwybr dreiniog cul
sydd â gwlan fel trimins Dolig ar ei hyd;
neu wrth heidio lawr y lôn wleb
sy’n ddrych i sglein yr awyr – 
down yma, i gyffwrdd  â’r gorwel
a’i blygu at iws gwlad.
 
Ac wrth ddynesu
o’n cymoedd a’n mynyddoedd
at ein dinas barhaus,
 
diolchwn nad oes tyllau bwledi
ym mhileri’r tŷ hwn,
dim ond cwmwl tystion wrth ein cefn
ym mhob plwraliaeth barn.
 
Ac wrth gael ein tywys 
i gynteddau’r tŷ,
boed angerdd i’n trafod
a phwyll ymhob cymod;
 
boed i anodd ddod yn syml,
a’r heriol ddod yn hwyl;
a boed i ni gofio’r wireb hon beunydd:
‘cynt y cyferfydd dau ddyn
na dau fynydd'

"Y tŷ hwn" - ar achlysur agor sesiwn newydd Senedd Cymru, Mehefin 2016

© Ifor ap Glyn
From: Waliau'n Can
Gwasg Carreg Gwalch, 2011
Audio production: Wales Literature Exchange