Cyn Brwydr

Mae’r nos yn llawn dynion;
maen nhw'n gwybod...
 

rhai’n gweddïo, rhai’n ‘sgwennu adre
rhai’n gorwedd yn llorweddol eisoes
yn arbrofi ag ebargofiant....
 
Mae llam y fflamau’n lluchio 
siapiau melyn dros y milwyr ;
mae rhai'n gwnïo’u henwau ar eu cotiau....
 
Maen nhw'n gwybod...
 
yfory bydd y caeau’n llawn cyrff.

© Ifor ap Glyn
From: Waliau'n Can
Gwasg Carreg Gwalch, 2011
Audio production: Wales Literature Exchange