Hydref eto

Ar ael y bryn,
lle mae’r llwyni lletraws 
a’r gwrychoedd gwargam                        
yn edliw’r gwynt i’r gwyll,                      
 
yno mae’r hydref 
yn tynnu wynebau watsus y coed...
 
y dail fel cocos 
yn chwyrlïo yn y gwynt,
fel llythrennau’n hedfan,
a’r wyddor yn datod.

© Ifor ap Glyn
Audio production: Wales Literature Exchange