Cyplau

Murddyn yw byw. Ninnau, mynnwn ei drwsio
at ddiddosrwydd.  Gyda’n dwylo ei saernio 
 
at frig adeilad. Nes clymu o dano nenbren, 
a wylia holl fynd a dod ein byw heb wybren.
 
Dau rwymyn cam. Naddwyd hwy’n gyfan, 
yn gyffion cytun, yn drawstiau llyfn a llydan.
 
Cyfarfod dau. Dyna’r grefft a fagwn wrth amgau 
dros ffrâm dau gnawd gan asio’r llyfnus gyplau 
 
sydd weithiau’n enfysu’n un. Ar ogwydd uwch yr oerfyd, 
geubrennau’n chwiffio serch. Yna’n stond am ennyd.
 
A’r to mor elwig ar dro yn gwichian cariad
wrth ddwrdio’r gwyfyn draw. I aros tro ei gennad.

From: Perffaith Nam / Perfect Blemish
Tarset: Bloodaxe, 2007
Audio production: Wales Literature Exchange