Menna Elfyn
Murmuron
Language: welsh
Translations:
german (Ein Murmeln), english (Murmurs), chinese (細語)
Murmuron
Sut mae byw yn drugarog
yn y byd hwn?
Dyna’r cwest, a’r cwestiwn.
Sut mae cerdded yn ddistaw
heb waedd yn y gwyll?
Na’r un cysgod erchyll.
A throedio’r byd hwn fel pe bai
baban yn cysgu yn y ‘stafell drws nesa’,
fel y rhown y byd rhag iddo ddeffro.
Murmur bendithion
o gylch y muriau
A gwres serch yn ei seiliau.