Menna Elfyn
Drws yn Epynt
Drws yn Epynt
Ar ôl i wraig ofyn i swyddog o’r fyddin am gael cadw ei “drws”
Mae yna ddrws sydd yn cau yn ei gyfer
a drws sydd yn drysu amser,
a’r gnoc sydd yn destun dwyster.
Ac er mor anial oedd ei hannedd,
yr aelwyd hon oedd man cyfannedd,
dan ddrws doi curwynt tangnefedd.
Nid adwy, na chroesi rhyd a orfu,
na gelyn—dim ond cennad deddfu;
“Lle perffaith i las fyddin i saethu.”
Yna, ar frys gyda gwŷs, cael gwared
â phreswylwyr y tir, ar drum nodded,
wrth ildio i’r lifrai gwargaled.
Nid heb lef. Cyn troi allan, dyma ofyn
“A ga’ i’r drws a’r bwlyn i’r bwthyn?”
Yn waglaw, disgynnodd i’r dyffryn.
Eto weithiau, ar lym awel, clywn ddychryn—
brath y drws yn agor, cau’n gyndyn.
“Gwrando pa drwst.” “Daear a gryn.” Gan erfyn.