Ifor ap Glyn

walisisch

 

Ceiliog mwyalchen

Yng nghefn y tŷ, wrth bwyso ar fy rhaw,
mae deryn du yn addo paradwys,
yn garglo heulwen yr hwyr yn ei wddf;             
 
mi ganith, am fod rhaid iddo;
byrlymu’r nodau croyw...
 
Ei delori sy’n fy ngalw at fy ngwaith,                                   
i greu chwyldro gyda gwên;
 
am fod y byd yn gân i gyd,
a bwlch enbyd yn ei harmoni
heb nodau ein halaw ninnau.

© Ifor ap Glyn
Aus: Waliau'n Canu
Gwasg Carreg Gwalch, 2011
Audioproduktion: Wales Literature Exchange