Meirion MacIntyre Huws
RHYWBETH YN RHYWLE
Mae’r coleg celwyddau yn orlawn,
mae croesau ar rai drysau’n y dre,
mae golwg “be ’wna i?” ar y strydoedd,
mae pechodau ar werth ar y we,
ar ddesgiau’r ysgolion mae yna olion cnoi;
mae rhywbeth yn rhywle yn barod i roi.
Maen nhw’n gwerthu crysau-T o’r angladd,
mae gwaed yn deneuach na dwˆ r,
pryd agorwyd y bar nodwyddau
alla i ddim bod yn siwˆ r.
Ers tro mae darogan nad yw’r llanw am droi;
mae rhywbeth yn rhywle yn gorfod rhoi.
Mae’r gwerthwr modrwyau ar ei gythlwng,
trodd yr enfys yn ddu ac y wyn,
mae’r Guinness yn rhy oer o lawer,
mae’r gadwyn amdana i’n rhy dynn,
heibio i dai’r cariadon fe godwyd ffordd osgoi;
mae rhywbeth yn rhywle yn gorfod rhoi.
Maen nhw’n rhuthro’r papurau newydd
yn syth o’r wasg i’r siop sgod-a-sglod,
mewn miloedd o feddyliau bychain
’sdim byd diarth, ’sdim byd yn od,
’sdim amser i boeni, dim lle i din-droi
achos mae rhywbeth yn rhywle yn barod i roi.