Meirion MacIntyre Huws
’DOES UNLLE YN Y BYD RHY BELL
Sprache: walisisch
Übersetzungen:
deutsch (kein ort der welt wird weit genug sein)
’DOES UNLLE YN Y BYD RHY BELL
’Does unlle yn y byd rhy bell,
i enw dy ganlyn a goleuo’r stafell,
ac i gusan hedfan rhwng dwy galon
i dorri’r syched ac i lyfnu’r lôn.
A ’does unlle yn y byd rhy bell
i’r llynedd dy erlid mewn gair digymell,
i’r ffrae dy ganfod ac i ddoe dy ddilyn
ac i gwmwl ledu dros bob man gwyn.
O’r golled neu o’r gyllell
’does unlle’n y byd rhy bell.