Grahame Davies
Coch
Coch
Ti’n gosod yr olewyddion gyda’r feta,
a rhoi’r ciabatta’n barod at y cwrdd,
agor y coch, a dyro’r gwyn i oeri;
a chynnau’r gannwyll bersawr ar y bwrdd.
Rhyw antipasti bach i godi archwaeth,
a chwlffyn o baguette gerllaw y gwin;
rhyw beth fel hyn yw trafod achub Cymru
y ganrif newydd hon yn CF Un.
Tybed pa beth a wnâi o hyn, dy dadcu,
a heriodd garchar er mwyn Yncl Joe,
yr un a gadwodd faner goch y chwyldro
i chwifio drwy dridegau’r pentref glo?
Yr un a aeth i Rwsia ar wahoddiad
i dderbyn Sofietaidd ddiolch-yn-fawr,
a dod yn ôl â cherflun bach o Lenin,
sy’n addurn uwch dy silff-ben-tân di ‘nawr.
Yr un enillodd lid y rhecsyn lleol
am gyfarfodydd gweithwyr yn ei dy.
Tybed pa beth feddyliai ef o wyres,
sy’n nashi dosbarth-canol bach fel ti?
Tybed yn wir. Ond merch dy dadcu wyt ti:
dau o’r un brethyn mewn gwahanol ffyrdd,
yn ceisio cuddio creithiau anghyfiawnder
drwy beintio’r byd i gyd yn goch - neu’n wyrdd.