Meirion MacIntyre Huws
3 Englynion
Sprache: walisisch
Übersetzungen:
deutsch (3 Englynion)
3 Englynion
UN DON WEN
Rwy’n gwylio’r môr ers oriau’n – dwyn yn ôl
froc di-nod y creigiau,
gan wybod bod, yn y bae,
un don wen i’m dwyn innau.
YFORY
Hwyrach y daw â gwrachod – neu hwyrach
daw â chariad hynod,
hwyrach y daw â herod,
ond myn Duw y mae o’n dod.
DYSGU DIM
Er ei chael mor sur a’i chath – yn wrach oer
â’i chôt yn un sglyfath,
a’i hen dempar yn dwmpath,
af i’w thyˆ ’fory ’run fath.