Volker Braun

الألمانية

Grahame Davies

الولزية

Lagerfeld

Rom: offene Stadt Ein Feldlager
Auf dem Laufsteg defiliert die Mode
Der Jahrtausendwende Panzerhemden
Für den Beischlaf Zwei Gladiatoren
Kämpfen um den Arbeitsplatz mit Würgegriffen
Eine alte Übung, die Beifall findet
Dafür haben sie die Schule besucht ER ODER ICH
Der Gestank der Angst In seinem Imperium
Erfüllt sich Lagerfeld einen Traum EIN RUDEL
FRAUEN AUSGESUCHTE SCHÖNHEITEN  
Die Winterkollektion für die Daker-Kriege
Hat ihn reich gemacht ZUM ABGEWÖHNEN
Sie tragen meine Ideen, es sind Sommerkleider
In die verwöhnte Welt Ein Fest der Schönheit
Helena Christensen im Abendkleid Die beiden
Handwerker lassen indessen nicht locker
Der eine ist Commodus, der ausgelassene Sohn
Eines gelassenen Vaters und Fehltritt der Mutter
Wenn er verröchelt steht der Thron leer
Und Septimius Severus der Afrikaner
Marschiert mit der XIV. aus der Wildnis Wien
Auf die Hauptstadt ARMES ROM Ein Barbar
Imperator An seinen Fersen der Rest der Welt
Lagerfeld schaut nicht hin Er hat ein Problem
Er kann sie schöner machen, aber nicht besser
Immer noch schöner Das Outfit der Bestien
ARM UND REICH Eine geteilte Kundschaft
ES IST GRAUENHAFT Bezahlen und stehlen
Ich genieße das ungeteilte Interesse Aber
Er weiß was vor sich geht, er ist ja nicht blind
Der fünfzehnjährige Killer aus Springfield
EIN LEICHENBERG IN DER CAFETERIA DER HIGH SCHOOL
Er hat gelernt Hand anzulegen
Sitzt in Papierkleidern in Gewahrsam
Auch eine Mode Aus Amerika Kinderbanden
Durchkämmen Nordrhein-Westfalen Lehrlinge
Auf der Nahrungssuche bei Woolworth und Hertie
Ein fingerfertiger Völkerstamm aus der Zukunft
In den Arbeitsämtern  wartet das Aas
Auf die Wiederverwendung Es kann lange warten
Wer Arbeit hat wartet die Automaten
Sie warten darauf, etwas warten zu dürfen
Legionen Während die Welt schwarz wird
Wie Afrika MAN DARF GEWALT NICHT NUR ANKÜNDIGEN
MAN MUSS SIE AUCH AUSÜBEN Das auswärtige Amt
Erklärt sich mit inwendigem Grinsen
Zu Bosnien Man wird euch zeigen was Arbeit ist
Eine Maschine mit Gliedmaßen geschlechtsneutral
Das Mannequin für die Arbeit von morgen
AM ENDE DES TAGES BIST DU EIN PRODUKT
Das Denken ist genau das was ich vermeide
Das täglich bedruckte Papier
Der Gewahrsam gegen den Selbstmord der Gattung
Ich lese es nicht, ich schaue nicht hin
Ein Theater gefüllt mit Gleichmut
DER EINZIGE ORT WO ES WOHLTUT
VERZWEIFELN Der ausgelassene Kleist
In Stimmings Krug MEINE GANZE JAUCHZENDE SORGE
EINEN ABGRUND TIEF GENUG ZU FINDEN  legt Hand an
Ein Doppelpunkt bei Potsdam Das Warten auf nichts
Das ist das Drama: es gibt keine Handlung
Wir wissen es anders und handeln nicht Nein
Wir können nicht anders Das Kleid
Ist angewachsen MAN ARBEITET HEUT ZU TAGE
ALLES IN MENSCHENFLEISCH Aber sie dauert
Sehen Sie Commodus, ein Tod von der Stange /
Lagerfeld oder Die Gelassenheit Er
Liebt nicht die Schönen, die er haben kann Sein Herz
Sucht die Schönheit überall Die Schönheit
Ist ein Sohn der Gosse Sie ist vorbestraft
Sehn Sie den Steckbrief, schwarze Haut
Ich genieße den Luxus, ausgestoßen zu sein
Ein Idiot im 3. Jahrtausend Ein Bürger der Welt
Helena Christensen verläßt den Laufsteg
Warum soll ich Mode werden
In der Wegwerfgesellschaft
Das Stadion voll letzter Schreie Ideen
Roms letzte Epoche des Unernsts
Sehn sie nun das Finale ICH ODER ICH
Salute, Barbaren

© Suhrkamp Verlag Frankfurt am Main 1999
من: Tumulus
Frankfurt am Main: Suhrkamp Verlag , 1999
ISBN: 3-518-41027-X
الإنتاج المسموع: 2000 M. Mechner, literaturWERKstatt berlin

Lagerfeld

Rhufain: dinas agored Cylch amddiffynnol
hyd y llwyfan stelcia ffasiynau’r
mileniwm Llurigau
at gydorwedd  Dau gleddyfwr
yng ngyddfau’i gilydd yn ymgiprys am y swydd
Hen grefft llindagu, enillent gymeradwyaeth.
Dyma i be’ roedd ysgol yn dda FE NEU FI
Drewdod dychryn Yn ei ymerodraeth
cyflawna Lagerfeld ei freuddwyd HAID
O FENYWOD DETHOLIAD O BRYDFERTHWCH
Casgliad y gaeaf ar gyfer rhyfeloedd Dacia
a’i gwnaeth yn gyfoethog ANNOG YMWADIAD
Maen nhw’n cario fy syniadau, dyma ddillad yr haf
i mewn i’r byd a ddifethwyd Gwyl prydferthwch
Helena Christiansen ar ei mwya trwsiadus Yn y cyfamser
ni chollodd y ddau grefftwr eu gafael
Un ohonynt yw Commodus mab afreolus
i dad tangnefeddus ac i lithriad y fam
Pan dagith safa’r orsedd yn wag
A Septimus Severus yr Affricanwr
a orymdeithia gyda’r XIVfed allan o ddryswig Wien
ar y brifddinas RHUFAIN DRUAN Ymerawdwr
o farbariad A gweddill y byd ar ei sodlau
Ni wylia Lagerfeld Mae ganddo broblem
gall harddu’r byd ond nid ei wella
Harddach o hyd Gwisg y gwylltfilod
TLAWD A CHYFOETHOG Cwsmeriaeth ranedig
MAE’N DDYCHRYNLLYD Talu a dwyn
Rwy’n mwynhau sylw cyfan Ond
fe wyr ef beth sy’n mynd ymlaen, nid yw’n ddall
Mae’r llofrudd pymtheg-oed o Springfield
TOMEN O GYRFF YM MWYTY’R YSGOL UWCHRADD
a ddysgodd sut i arddodi dwylo
bellach mewn dillad papur yn y ddalfa
Ffasiwn arall o America Gangiau plant
gribinia drwy Nordrhein-Westfalen Prentisiaid
sy’n hela bwyd yn Woolworth a Hertie
Tylwyth deheuig o’r dyfodol
Yn y Canolfannau Gwaith erys burgun
i’w  ailgylchu Gall aros yn hir
Y sawl sydd mewn gwaith a wasanaetha’r peiriannau
arhosant am ganiatad i weinu arnynt
Llengoedd Wrth i’r byd dduo
Fel Afrika NID DIGON YW BYGWTH TRAIS
RHAID EI DDEFNYDDIO Y Swyddfa Dramor
gyda chrechwen fewnol a esbonia am
Bosnia Fe ddangosir ichi beth yw gwaith
Peiriant gydag aelodau di-ryw
y mannequin ar gyfer gwaith yfory
AR DDIWEDD Y DYDD CYNNYRCH WYT
Meddwl yw’r union beth rwy’n ei osgoi
Y papur a argreffir yn feunyddiol
Dalfa er atal hunanladdiad y rhywogaeth
Nid wyf yn ei ddarllen Nid wyf am sylwi
Theatr lawn difrawder
YR UNIG FAN LLE MAE’N BLESER
ANOBEITHIO Mae’r Kleist chwareus
yn y dafarn FY UNIG BRYDER GORFOLEDDUS
CANFOD CEUNANT DIGON DWFN yn gosod ei ddwylo
Dau atalnod ger Potsdam Aros am ddim byd
Dyna yw’r ddrama: nid oes stori
Gwyddom fel arall a gwnawn ddim oll  Na
ni fedrwn weithredu’n wahanol Mae’r wisg
wedi tyfu’n ail groen Y DYDDIAU HYN FE WNEIR
POPETH MEWN CNAWD DYNOL Ond mae’n mynd ymlaen
Edrych ar Commodius, angau parod
Lagerfeld neu dangnefedd Nid yw’n caru’r
rhai prydferth y gall eu meddiannu. Mae ei galon
yn ceisio prydferthwch ymhobman  Prydferthwch
yw mab y gwter Mae ganddo record troseddol
Wele ei ddisgrifiad, croenddu
Rwy’n mwynhau moethusrwydd y gwrthodedig
Ynfytyn yn y trydydd fileniwm Dinesydd y byd
Gadawa Helena Christiansen y llwyfan
Pam ddylwn i fod yn ffasiynol
yn y gymdeithas dafladwy
Yr arena’n llawn syniadau a’r bloeddiadau diweddaraf
Oes olaf gwamalrwydd Rhufain
Nawr gwyliwch y diweddglo FI NEU FI
Henffych, farbariaid oll

Translated by Grahame Davies