Volker Braun

الألمانية

Grahame Davies

الولزية

6. 5. 1996

Ich verschlief den Morgen im Art-Hotel, es regnete
Bindfäden in die Elbe, kein Frühstück
Aber ein hungriger Blick auf die Wände
Penck, Sohn keiner Klasse, malt sich ein Museum
Jagdmotive für Höhlenbewohner WESTKUNST oder
DIE STRICHMÄNNCHEN DER PLANUNG, das Taxi
Steckte im Stau auf der Dimitroff der Augustusbrücke
Nichts ging mehr während meine Mutter starb
Ich ging zufuß umrundend eine Erdramme
Gerät das Antaios ein Bodenspekulant
Aus Libyen mit seinen Leiharbeitern
Die Stadt war aufgerissen wie nach dem Angriff
Barockschutt, man kann in den Fundamenten wandeln
Und den Irrtum suchen, in der Staatskanzlei
Ein stummes Getümmel, statische Künstler
Sie halten sich unter jeder Regierung
Adam Schreier Güttler Hoppe und Braun
GEHE NIE ZU DEINEM FÜRST
WENNDE NICH GERUFEN WIRST
König Kurt der Frühaufsteher
Versammelte die unausgeschlafene Akademie
Zu einem Morgenappell, meine Müdigkeit
Ist verwickelterer Herkunft, ich gähne
Aus mehr Epochen, mein Spott ist Spätlese
Aus der Hanglage meines Bewußtseins
Am Ort meiner fristlosen Entlassung
Wir druckten FRÖSI fröhlichsein und singen
Vier Farben Offset JA WENN DIE KINDER
IMMER KINDER BLIEBEN mein wacher Bruder
Bestätigte meine politische Unreife
Der zweite fuhr schwarz über die Grenze
Einer von fünfen, das verlangte der Realismus
Ich trug der Tochter eines Musikers den Koffer
Sie wollte Musik ohne Politik studieren
Hellwach nach der Liebesnacht zum Bahnhof
Im Land Hanns Eislers vergeblichen Streiters
Gegen die DUMMHEIT IN DER MUSIK
Auf dem Heimweg wurde ich ein Dichter in Deutschland
Zwischen Stoppelfeldern unter dem Sternhimmel
Eine Schlammspur unter den Füßen, jedenfalls Sand
Auf den Korridoren der Macht, meine Sanftmut ist hart
Erarbeitet in der Zementfabrik SOZIALISMUS die Frage
Die keine Antwort zuließ bzw. die Antwort
Die keine Fragen zuließ, in Moskau ist jetzt die Synode
Zusammengetreten und diskutiert die Frage:
KANN DIE APOKALYPSE IN EINEM LAND STATTFINDEN?
Der Witz ist auch dünne geworden, wie plattgemacht
Goldmann, mir schlafen die Füße ein
Auf dem Parkett, wir waren zu lange wach
Überwach vom Warten auf den Morgen
Bis uns dämmerte daß er vergangen war
Ich trank Sekt in der Sächsischen Akademie
Während meine Mutter starb, ich sah sie gestern
Leben in dem ausgemergelten Körper, der Schmerz
Krümmte sie in ihre letzte Gestalt, sie hatte
Einen Moment den Mut verloren und war müde geworden
Gelegenheit, sie RUHIGZUSTELLEN, sie lag
Den Kopf zurückgebogen und hob verwundert /
Empört den Arm, in dem die Kanüle steckte
Und griff sich ins Gesicht an die Sauerstoffsonde
Ohne uns wahrzunehmen / handeln zu können, heute
Finden wir sie abgestellt im Keller, gleich an
Der Tür, eine Binde um das Kinn, der Kopf
Mumienhaft klein, ein Fetzen Mull auf dem Auge
Ist liegengeblieben, die Wangen kalt
Ich habe noch dreißig Jahre zu leben
Ich sitze an einem Tisch mit meinem toten Vater
Es gibt Gräupchen, der Landser löffelt
Das Gewehr geschultert, sie schmecken salzig
Von den Tränen die heimlich über dem Herd
Hineingemischt werden, oder zwanzig
Wenn ich nicht müde werde künstlich ernährt
Von meinem Zeitalter OSTEN WESTEN
EINE VERMISCHUNG sagt Penck UNTEN OBEN
Die Schnellgeburten aus schwarzem und rotem Acryl
Nein eine Trennung DRIN UND DRAUSSEN
LEBEN UND TOD, wann wird der Dichter
Geboren, NACH JAHREN DER NIEDERLAGE
UND GROSSEM UNGLÜCK WENN DIE KNECHTE AUFATMEN
UND DIE BILDER ERWACHEN VOR DEM UNGEHEUREN ANBLICK.

© Suhrkamp Verlag Frankfurt am Main 1999
من: Tumulus
Frankfurt am Main: Suhrkamp Verlag, 1999
ISBN: 3-518-41027-X
الإنتاج المسموع: 2000 M. Mechner, literaturWERKstatt berlin

6.5.96

Cysgais yn hwyr yn yr Art Hotel, bu’n
arllwys y glaw i’r Elbe, heb frecwast
ond golwg llwglyd ar y muriau.
Penck, na fu’n ddisgybl i’r un dosbarth, a beintia amgueddfa iddo’i hun.
Golygfeydd hela i bobl yr ogofâu WESTKUNST* neu
FFON-DDYNION Y CYNLLUN, y tacsi
aeth yn sownd yn y traffig ar y bont Dimitroff Augustus
ni symudodd dim byd, tra bu fy mam yn marw.
Crwydraf ar droed o amgylch y peiriant ramio,
teclyn Antaios, yr hapfasnachwr eiddo
o Lybia gyda’i is-gontractwyr.
Rhwygwyd y ddinas ar agor megis gan gyrch awyr,
y baroc yn rwbel, gellir crwydro’r sylfeini
a chwilio am y gwall. Yn Swyddfa’r Canghellor
cynnwrf mud, artistiaid stond
a oroesant dan bob llywodraeth
Adam Schreier, Güttler Hoppe a Braun
GOCHELWCH Y BRENIN
OS NAD EF SY’N GOFYN
Brenin Kurt y Boregodwr
a eilw’r Academi gysglyd
i’r cynulliad boreol, mae gan fy mlinder innau
darddiad mwy astrus.  Rwy’n dylyfu gên
o achos yr oesoedd i gyd. Mae fy nychan yn win
o lechweddau fy ymwybyddiaeth
o’r fan y’m diswyddwyd yn ddirybudd.
Argraffom FRÖSI**, canu a mwynhau,
mewn pedwar lliw, GWIR, PE BAI PLANT
YN BLANT AM BYTH fy mrawd effro
a gadarnhaodd fy anaeddfedrwydd gwleidyddol.
Aeth yr ail dros y ffin heb ganiatad,
un allan o bump, fel oedd ond yn gwneud synnwyr.
Cariais fagiau merch y cerddor
a ddymunai astudio cerddoriaeth, heb wleidyddiaeth,
yn effro i gyd wedi noson o gariad, at yr orsaf.
Yng ngwlad Hanns Eisler, yn ymgyrchu’n ofer
yn erbyn TWPDRA MEWN CERDDORIAETH.
Ar y ffordd adref deuthum yn fardd yn yr Almaen
rhwng adladd a sêr y nen,
llwybr lleidiog dan fy nhraed, tywod beth bynnag,
yng nghoridorau grym. Dygn fu fy ngwersi
tynerwch yn y ffatri goncrit. SOSIALAETH, y cwestiwn
na chaniata ateb, neu’n hytrach yr ateb
na chaniata gwestiynau. Ym Moscow
ymgasglwyd y synod gan drafod  y cwestiwn:
A DDIGWYDDA’R APOCALYPS MEWN UN WLAD YN UNIG?
Tenau yw’r jôc, yn fethdal, fe ymddengys.
Goldmann, mae fy nhraed wedi mynd i gysgu,
ar y llawr pren drudfawr, buom ddi-hun yn rhy hir,
yn or-effro wrth aros y bore.
Nes iddo wawrio arnom ei fod wedi mynd.
Yfais win pefriog yn Academi Sacsonia
tra bu fy mam yn marw. Gwelais hi ddoe,
bywyd mewn corff treuliedig, poen yn
ei chordeddu i’w holaf ffurf.  Roedd wedi colli
ei dewrder am eiliad ac wedi blino.
Cyfle i’w THAWELYDDIO. Gorweddodd
gyda’i phen yn ôl ac mewn dryswch /
cynddaredd fe gododd ei braich, gyda’r tiwb ynddi,
a chyffyrddodd â’i hwyneb a’r mwgwd ocsigen
heb sylwi arnom / mewn anallu. Heddiw
fe’i canfyddwn wedi ei chludo i’r seler, ger
y drws, ei gên wedi’i chlymu, ei phen
mor fach â mwmi, a sgwâr bach o rwymyn
a adawyd dros ei llygad.  Y bochau’n oer.
Mae gen i dri deg mlynedd ar ôl i fyw.
Eisteddaf wrth fwrdd gyda fy nhad marw.
Cawl barlys.  Mae’r milwr yn ei leibio,
y gwn ar ei ysgwydd. Mae’n blasu’n hallt
o achos y dagrau a gymysgwyd iddo
yn y dirgel dros y ffwrn. Neu ugain,
os na flinaf, cael fy mwydo’n artiffisial
gan fy oes fy hun. DWYRAIN GORLLEWIN
CYMYSGEDD meddai Penck.  ISOD UCHOD
cyflenwadau cyflym o baentiau coch a du.
Na, gwahaniad, TU FEWN TU ALLAN
BYWYD AC ANGAU. Pa bryd y genir
y bardd. WEDI BLYNYDDOEDD O GOLLED
A THRISTWCH MAWR. PAN ANADLA’R GWAS DRACHEFN.
A DEFFRA’R DELWEDDAU GERBRON Y WELEDIGAETH FAWR.

*  Celfyddyd Gorllewin yr Almaen.
** Fröhlichsein und Singen (Frösi): Cylchgrawn i blant.

Translated by Grahame Davies