Meirion MacIntyre Huws
MEWN ANGLADD
Wrth i mi fethu â sbïo, wrth i deulu rythu ar ro, wrth i ffrind frathu ei ffarwél a Duw ei hun yn dawel, fel gwaetgwn dacw nhw’n dod yn poeri galar parod. Troediant yn dwt drwy’r adwy, “Dod i ymweld a dim mwy”. Dymuno ’nabod maen-nhw, dyna haul ei bywyd nhw. “Pasio!” er mwyn cael phisyn, hanner darn bychan o’r dyn. A gyda’n bod ni’n gadael bydd rhyw sgwrs wrth gwrs ar gael. A gawn-nhw fynd yn gynnar wedi’r sgwrs i’w milltir sgwâr, yn ôl i’w byd annwyl, bach ansicir yn bwysicach.



