Meirion MacIntyre Huws
Dieses Gedicht liegt in folgenden Übersetzungen vor:
dort wo die boote der armen (Deutsch)
LLE MAE CYCHOD Y TLODION
Lle mae’r tarmac yn graciau a swˆ n cwch fel drws yn cau yn rhywle, lle mae’r wylan fudur a chur yn ei chân wastad a’r tai’n ddistaw ac oglau hallt ar y glaw lle mae’r gaeaf yn trafod fy hynt a’r hyn sydd i fod. Lle mae cychod y tlodion yn dweud eu dweud wrth y don a dwy awr rhyngof â’r dydd dwyawr mewn diawl o dywydd mae’n flêr a does run seren heno i mi uwch fy mhen dwi’n geiban ond yn gwybod mai yma wyf innau i fod.



