Grahame Davies
Competitor
(Among the competitors in 1949 was a choir from Luebeck, Germany, the first to visit Llangollen since the war. Apprehensive about what reception would meet them, they were introduced to the audience by the festival’s compere, Hywel Roberts, whose own brother had been killed in Germany on the last day of the war.)
Beth fydden nhw’n ei feddwl ohonom ni?
Dyna oedd ein pryder
tu cefn i’r llwyfan yn y dref ddieithr hon,
gyda’r enw amhosibl,
a dim ond llen denau
rhyngom a chenedl a fu, ychydig flynyddoedd ynghynt,
yn elynion einioes i ninnau
- mintai mewn plethau melyn,
heb arfau ond ein cân.
Ninnau’n aros yn ein rhengoedd ufudd
fel dihirod yn disgwyl dedfryd,
gan wylio ef, y Cymro nerfus,
yn ymbalfalu am allwedd y geiriau
i ddatgloi degawd o ddig
yng nghalonnau’i gyd-wladwyr.
A’u cael:
“Gyfeillion, rhowch groeso
i’n ffrindiau o’r Almaen.”
Pan gododd y llen, prin y medrwn weld ein gilydd,
y gynulleidfa a ninnau,
a dagrau cyn-elynion wedi golchi’n byd yn wyn.