Grahame Davies
Y Mynyddoedd
Digiais wrth eich tawedogrwydd,
yn troi wyneb caregog ar fy nghwestiynau,
yn aros yn ddi-ymateb gerbron fy nryswch;
gwacter didaro’r wybren uwch fy mhen,
y gwynt digysur ar draws y waun
a hoglau anwybodus blodau’r grug,
a rhegais eich difaterwch fel glaslanc dig.
Bellach, pan ddof atoch,
yn dwyn fy ngofidiau fel ebyrth i’r uchelfannau,
a’r anadl yn fyrrach,
a’r llwybr yn arwach,
dy dawedogrwydd yw’r hyn a geisiwn.
Cynghorion tawelwch y tarth ym mrigau’r rhedyn,
dealltwriaeth ddi-eiriau cyffyrddiad y ddaear,
a gwerthfawrogwn ‘nawr yr ymatal drud
sy’n gwrando poenau dyn a chadw’n fud.