Grahame Davies
Tywyllwch
Ar ben y sta’r, gyda’r nos,
y petruso, yr aros;
y llais bach wrth gyrchu’r gwyll:
‘Tyrd gyda mi — mae’n dywyll.’
A dringaf, a rhoddaf law,
ac awn ymlaen yn ddistaw;
a dirgelwch y drws du
drwy gariad yn diflannu.
Ar ben fy mlynyddoedd i,
y petruso, yr oedi.
Wrth syllu i’r gwacter hyll:
‘Tyrd gyda mi — mae’n dywyll.’
Yn unig, dringaf yn uwch,
gan estyn llaw i’r duwch,
gan ddisgwyl, ar y trothwy,
i law gynnes ei chymryd hi.