Grahame Davies
Berlin
(Y Rhingyll Nikolai Masalov. Achubodd Masalov fywyd yr eneth ar. Ebrill 28, 1945, yn ystod y frwydr am Berlin. Wedi’r rhyfel, codwyd cerflun ym Mharc Treptower i gofnodi’r digwyddiad.)
Clywsom ei llais rhwng sŵn y gynnau,
wrth inni nesau at y Reichstag,
a bwledi’r Natsïaid yn cnoi cerfluniau’r bont a lochesai’n cwmni.
Wedyn, drwy’r mwg, fe welsom hi, Almaenes deirblwydd oed
yn llefain rhwng y lluoedd, wrth ochr celain ei mam.
Nid dyn o efydd oeddwn ar y pryd,
wrth neidio’r bont i’r afon,
a bwledi’r Ffasgwyr yn ffustio’r dwr o’m hamgylch.
A llawer mwy diolwg oeddwn na’r cerflun trwsiadus
wedi imi lusgo ‘nôl drwy laid ac olew’r Spree
a’r ferch yn fy mreichiau.
Droeon fe ofynnwyd imi, pam.
Ar y pryd, greddf ydoedd:
roedd achub plentyn mor naturiol â lladd gelyn.
Erbyn hyn, a Reich a Sofiet wedi cilio fel mwg y frwydr,
fe welaf nad cyfwerth celanedd ac ymgeledd,
ac mai’r ennyd anhunanol a erys fel efydd:
y lladdwr di-ddryll yn dal, yn ei freichiau, ei achubiaeth ef ei hun.